Diwrnod y canlyniadau
Dydd Iau Mai 21ain
Y diwrnod wnaeth newid fy mywyd yn llwyr.....diwrnod y canlyniadau.
Fel yr wythnos gynt, Mam oedd yn dod gyda fi yn gwmni. Bydde hi di mynd off ei phen gyda gofid se hi yn gorfod aros adre i ofalu am y bois ac aros am yr alwad wrtha i fyd.
Gan fod Andrew yn berson pwyllog sydd ddim yn stressan, fe oedd y person gorau i edrych ar ol y bois bach.
Fi’n un o’r bobol na fyd, sy ise Mam pan fi’n dost 🙈. Er bo hi’n berson anxious ofnadw, ma hi wastad yn gwbod be i weud a neud i wneud fi deimlo’n well.
Sain cofio lot o’r bore, popeth braidd yn blur, ond fi’n cofio y siwrne lawr yn y car i Gaerdydd. Roedd yr apwyntiad am 1.15.
Fe benderfynon ni adael Drefach am 11.
Tro dwetha o’n ni lawr yn uffernol o gloi.
Fi itha falch taw fi odd yn dreifo (smo Mam gallu..hehe) achos odd en ffordd i fi gadw fy meddwl yn fishi a rhwbeth i ganolbwyntio arno.
On i itha tawel ar y ffordd lawr ac yn gwrando ar rhaglen Bore Cothi ar Radio Cymru. Roedd Shân a Lowri Cooke yn siarad am ddigrifwyr megis Ryan a Ronnie, Gary Williams, Ifan Tregaron...o’n i yn joio gwrando ar y sgwrs ac yn gallu blanco’r apwyntiad mas.
Fi’n cofio cyrraedd Abertawe a nath Shan Cothi roi cân Caryl Parry Jones a Huw Chiswell....Fedrai’m ond dy garu di o bell (o’r ffilm Ibiza Ibiza) ac os do fe de, fel ath y gân mewn i’r gytgan fe byrstes i mas i lefen a just gweud “fi’n rili becso mam”.
Y gwir oedd, on i yn emotional wrek ac odd y gân ma wedi tipo fi dros yr edge. Gath Mam yffarn o ofan ac fe wedodd hi “oo caryl ti di bod yn good on i yn meddwl”
A dyma fi to yn gweud “fi’n becso shwt gyment mam”
“Ma rhaid ti fod yn gryf Caryl fach”
A dyna fe. Tawelwch wedyn.
A sain gwbod shwt, ond des i ben a gwrando ar y gân i gyd a dala’r dagre nol.
Tu fewn o’n i yn yfflon.
Na gyd on i gallu meddwl am oedd Andrew a’r bois.....a fi’n gorfod caru nhw o bell achos bo’r canser ma yn mynd i ladd fi.
Cyrraedd Ysbyty Spire Caerdydd o’n i yn crynu fel deilen. Daeth Mam mewn gyda fi tro hyn. 1.00 - Chwarter awr cyn ein amser......roedd yr aros yn hunllef, gyda phob munud yn teimlo fel awr.
Pan ddath 1.15, doedd dim son am neb.
1.30...daeth dwy ferch ifanc i fewn am mammogram.
On i yn panics byw nawr....beth os ma nhw yn cymryd amser yn mynd dros canlyniadau fi a penderfynu y ffordd ore i weud bo fi mynd i farw?
1.40 - ac on i di neud fy “good luck ritual” sawl gwaith nawr. Plis plis plis fi just moen atebion.
Yna daeth nurse Jo i hol fi.
Gan fod mwgwd arni on i methu darllen ei hwyneb i weld os oedd newyddion da neu drwg o fy mlaen.
Fe arweinodd Jo ni at ystafell Eleri Davies. Yr un ystafell o’n i wedi bod wythnos diwethaf.
“Hello, how was your journey down here today”
“Not too bad.....(plis dim small talk. Just gwed)
“Last week we saw you and we have the results. It is breast cancer, but it’s a good cancer”
Dales i’r dagre mewn, yna pipes i ar mam a dala ei llaw yn dynn dynn dynn a gweud “paid becso mam, byddai’n iawn”.
O’n i yn becso mwy am Mam. On i gallu gweld yr ofan yn ei llygaid.
Dechreuodd Eleri wneud diagram yn dangos lleoliad y lwmp, ac esbonio beth bydd y camau nesaf o bosib....”you will have a lumpectomy followed by radiotherapy”.
Omg ma gobeth de, smo nhw wedi gweud bo fi mynd i farw a bod e’n incurable.
Ma fe’n “good cancer a easily treatable”!!!
“I will contact the breast care unit in Llanelli to see if they can see you within the next week”
Arweinodd Jo fi a Mam at ystafell fach dawel tra bydde Eleri yn cysylltu â ysbyty Llanelli. Yno fe roiodd hi pamffledi a llyfryn i fi am canser y fron. Aeth Jo allan.
Odd popeth bach yn blur o fana mlan. Nes i ffonio Andrew, Dad a fy mrawd.
“Byddai’n fine” odd ymateb fi i’r tri.
O’n i i just ise dreifo gatre a cal cwtsh da’r bois bach nawr.
Dath Jo nol ata i a Mam a dweud bo ni yn gallu mynd ac y bydde ysbyty Llanelli mewn cysylltiad â fi. Cyn gadael fe roiodd Jo amlen i fi gyda CD o’r mammogram i roi i’r doctor yn Llanelli.
Wrth gerdded mas fi’n cofio gweld merch ifanc yn torri lawr gyda un o’r nyrsus arall yn yr ystafell aros...a cofio meddwl...”ma hi fel fi, felna on i wthnos dwetha”.
O’n i lot fwy pwyllog wrth gerdded mas o’r apwyntiad heddi. Roedd yr atebion gyda fi ac odd cynllun o fy mlaen.
Er bod en absolwtli crap bo canser da fi. Ma nhw’n gallu neud rhwbeth amdano fe.
Fe gerddes i mas gyda fy mhamffledi “Diagnosed with Breast Cancer” “Invasive Ductal Carinicoma” a’r amlen.
O’n i ise cyrraedd adre i gael darllen trw rhein. O’n i ise gwbod popeth am y canser ma. ‘Knowledge is key’.
Dyw rhai ddim ise gwbod y ffeithiau. Fi itha geeky ac ise gwbod am y pethe gwyddonol - fi’n teimlo mwy ‘mewn control’ os fi’n deall rhywbeth, a fi moen deall POPETH am y fucker bach ma sy’n tyfu yn fy mron i.
Odd y siwrne nol yn od. O’n i yn teimlo yn ysgafnach rywffordd. On i wedi cael atebion ac yn falch bo “plan” o flan fi i gael gwared o’r cancr ma.
Yr holl ffordd nol wnes i a Mam siarad am yr holl fobl o’n i yn nabod odd wedi cael cancr y fron ac wedi goroesi. O’n i teimlo bach yn well.
Cyrraedd nol yn Drefach, odd Andrew a’r bois yn disgwl amdana i gyda’r cwtsh mwya yn y byd. Roedd y dagrau yn llifo - “fi’n mynd i fod yn fine” na gyd on i yn gallu gweud.
Odd rhaid i fi fod yn iawn. Smo’r peth bach ma sy’n tyfu yn fy mron i mynd i fod yn drech arna i, da fi lot fwy o fyw i neud eto.
Create Your Own Website With Webador