Darganfod lwmpyn

Bore dydd Mercher 6ed o Fai. Roedd pawb adre 'ma oherwydd y lockdown.

Digwydd bod ar y bore 'ma, fe arhoson ni gyd yn y gwely am sbel fach i wylio Netflix. Doedd dim hast ofnadw ar neb i godi, felly dyma ni yn gwylio Mr Bean yn y pwll nofio am y canfed tro. Ar ôl sbel fach roedd y bois fel pethe dwl ac wedi dechrau wreslo ei gilydd a neidio ar fy mhen i.

"Fi'n credu a'i gael shower nawr" wedes i wrth Andrew (er mwyn cael dianc o'r halibalw).

Sain mynd i esgus gweud bo fi'n un o'r bobl 'ma sy'n checkio'i bronnau bob dydd - ond ar y diwrnod yma trw lwc...nath rhywbeth wneud i fi checkio (a diolch i Dduw am 'ny). 

Ar ochr allanol fy mron ar yr ochr chwith, fe deimles i rhywbeth.

I ddechrau o'n i ddim yn convinced taw lwmpyn odd e. Hmmm yn sicr doedd e ddim fel y lwmpyn nes i ddarganfod 10 mlynedd nol (stori arall yw hynny, ond Fibroadenoma oedd y lwmpyn yna).

Ta beth, ar ôl cymharu y ddwy fron, on i dal ddim yn convinced os taw lwmpyn oedd e neu beidio. Yfe gland neu rhan o'r tisw yn y fron oedd e? Yw e falle mwy bumpy achos bo hi'n rhyw adeg penodol o'r mis?

Chi'n clywed am rhai yn teimlo fel pysen, neu talpyn mowr. Ond doedd hwn ddim yn typical lwmpyn. Am ryw rheswm ddachreues i lefen a panico, achos er nad oedd e'n typical lwmpyn roedd e'n teimlo fel rhywbeth newydd/gwahanol. Shit....beth os taw cancr yw e???

Des allan o'r gawod yn ddagreuol ond des i ben a cwato'r dagrau pan gerddes i mewn i'r stafell wisgo. Roedd dŵr dal drosta i felly doedd e ddim yn edrych fel tasen i wedi bod yn llefen.

Heeeeeelp
"Andrew dere ma am funud" - oh gosh ma llais fi'n swno'n wahanol ac itha shaky.

"Pam, be ti moen?" 

"Just dere ma ychan" weiddes i nôl.

Chwarae teg fe ddaeth e i'r stafell wisgo yn strêt ar ôl i fi godi'n llais.

"Ie, be ti moen de?"

Nawr odd yr amser i holi am second opinion.

"Teimla boob fi.....

Odd e siwr o fod yn meddwl fod ei lwc e mewn...

......ti'n gallu teimlo lwmpyn?"

Ath golwg bach mwy seriys ar ei wyneb e pan wedes i'r gair lwmpyn. 
Felly ar ôl cal swmpad o'r ddwy fron a nôl eto ar yr un chwith- fe ddath e i'r conclusion

"Hmm sain gwbod, falle bod e'n wahanol i'r ochr arall, ond sain gwbod, nagyw e'n well i ti holi doctor"

Doctor? Shwt i fi mynd i allu weld doctor gyda'r sefyllfa coronafirws 'ma.

Cyn bo fi'n cael amser i feddwl yn iawn, fe godes i'r ffôn a ffonio'r syrjeri.

"Helo, sain gwbod os bo fi wedi ffindo lwmpyn neu bido yn fy mron.....33oed....oes ma plant da fi.....na sai ar y pill......hmm ges i lwmpyn 10mlynedd nôl,  ond fibroadenoma odd hwna"

"Well i chi ddod lawr i ni gael y doctor i weld chi, chi'n gallu dod lawr o fewn yr hanner awr nesa??"

Cyn i fi gael amser i orffen gwisgo yn iawn, on i hanner ffordd mas trw'r drws ac wedi jwmpo yn y car ac ar y ffordd i'r syrjeri.

Y syrjeri
Pan gyrhaeddes i'r syrjeri, dath nyrs i gwrdd â fi yn ei PPE. Erbyn hyn o'n i wedi llwyr anghofio am y sefyllfa coronafirws. Roedd y syrjeri yn wag ac yn teimlo yn od iawn. Gorfes i ddim aros yn rhy hir iawn chwaith cyn gweld y doctor. 

.....Roedd y doctor yn lyfli, ar ôl iddi wneud archwyliad ar y ddwy fron a clywed am hanes y lwmpyn blaenorol, fe ddywedodd hi mae'n debygol taw fibroadenoma arall yw e, ac fe nele hi fy referro i Glinig y Fron jyst i wneud yn siwr. Doedd dim panig yn ei llais, felly o'n i itha relaxed. 

"Faint mor hir bydd angen i fi aros i weld rhywun, fi'n becso bach am yr holl oedi achos y coronafirws 'ma" y gofid mwya i fi ar hyn o bryd odd yr AROS!!!

S'dim lot o amynedd gyda fi pan mae'n dod i aros am gael atebion- fi ise gwbod strêt away!!!!

Esboniais iddi mod i'n berson anxious iawn a fy mod i wedi mynd yn breifat i weld Dr Holt 10mlynedd nol i gael atebion o fewn wythnos. Jyst o ran tawelwch meddwl mwy na dim.

Fe ddywedodd hi y base hi'n fodlon ysgrifennu llythyr a'i basio fe mlan i fi os o'n i ise trefnu apwyntiad gyda rhywun yn breifat, ac fe fydde hi dal yn neud referral i'r NHS hefyd. Falle bydde'r NHS yn ymateb yn syth a bydden i yn gweld rhywun cyn cael apwyntiad preifat - o leia nawr roedd mwy nag un opsiwn gyda fi.

Dweud wrth Mam
Wel 'na beth oedd bore....roedd popeth 'di digwydd mor gloi, o'n i wedi anghofio ffonio Mam (rhywbeth fi'n neud pob bore)

Whare teg odd hi heb ffonio gan feddwl bo ni wedi cael lie in. Felly pan esbonies iddi bo fi'n credu bo fi wedi ffindo lwmpyn a bo fi wedi bod i'r syrjeri i gyd cyn 11, odd hi mewn bach o sioc.

"ffona bancyfelin i weld os allu di mynd yn breifet, tala i, sdim ise ti fecso dim, ma dou o blant da chi i feddwl amdano".  
Doctors orders??? Nage, ond Mam's orders odd rhain!!! 

Pan ddes i bant o'r ffôn o Mam es i googlo am rhif Ysbyty Werndale Bancyfelin - i dorri stori hir yn un byr, do'n nhw ddim yn cynnig clinigau preifat i gleifion newydd oherwydd roedd yr ysbyty erbyn hyn yn gwneud llawdriniaethau cancr ar gyfer cleifion NHS achos y sefyllfa coronafirws.


Ysbyty Spire Caerdydd
Google search eto ac fe ddes i ar draws Ysbyty Spire Caerdydd. Ar ôl galwad ffôn arall o'n i wedi cael apwyntiad o fewn wythnos lawr yng Nghaerdydd i weld Dr Eleri Davies. Dim gormod o aros diolch byth - happy days! 

 

Dyna fe, y bore mwya' productive erioed yn hanes y lockdown! 

Create Your Own Website With Webador