Apwyntiad cyntaf yng Nghaerdydd
Dyma ni ar ddiwrnod 9657547 o’r lockdown ac yn torri ychydig ar y rheolau. Es i lawr i Lanbed erbyn 9.15 i gwrdd â Mam. Roedd hi wedi mynnu y bydde hi’n dod gyda fi i i’r apwyntiad yn Gaerdydd neu aros yn Drefach i wylio’r bois i fi ac Andrew. “Sain becso os gai ffein, smo ti’n cael mynd dy hunan i Gaerdydd”.
Do’dd Mam ddim wedi bod yn y car da fi ers y 19eg o Fawrth (diwrnod fy mhen-blwydd) dim ond ar Facetime o’n i yn gweld hi yn ddiweddar, a drw’r ffenest wrth dropo’ siopa o Sainsburys bant.
O’n i yn falch yffernol o weld hi. Fe ddes i ac Andrew i benderfyniad taw’r peth gore bydde i Andrew watcho’r bois (gan bo nhw di bod yng nghwmni fi a Andrew 24/7 ers bron i ddeufis) Er bo Andrew moen dod gyda fi, wedes i wrtho fe, nele fe ddim lot o wahaniaeth pwy bydde’n dod achos taw yn car byddech chi’n gorfod aros (o’n i ar ddeall nad doedd yr ysbyty yn caniatau i gleifion ddod â chwmni oherwydd Covid19)
Mam oedd yn cael dod yn gwmni gyda fi yn y car, ac oedd hi wedi paratoi cino bach i ni gael bwyta (dim caffis ar gael)
Roedd yr apwyntiad am 1.15, felly nelon ni adael Drefach am 10.30 (rhag ofn bydde traffig)
Doedd dim ise becso am draffig, achos welon ni braidd neb ar yr hewl. Profiad rili rili od odd dreifo lawr yr M4 jyst yn pasio loris ac ambell i gar. O’n i yn teimlo fel se hi’n ddiwedd y byd a dim ond ni odd ar ôl.
Siaradon ni ddim am yr apwyntiad o gwbwl yr holl ffordd lawr.
Fe gyrhaeddon ni gwasanaethau dwyrain Gaerdydd yn gloiach na be on i’n disgwl. Sy’n beth da rili achos o’n i’n desperate ise pi-pi - roedd y nerves wedi dachre cico mewn.
So dyma ni dwy yn mentro mewn i’r “services” gyda hand gels yn ein pocedi
O’n i dal yn gynnar uffernol, so elon ni nol i’r car ac fe ddreifes i’n slo bach tuag at Pentwyn i drial ffindo Ysbyty Spire.
Pan gyrhaeddon ni’r maes parcio fe dynodd mam y picnic mas - rolls tiwna, crisps, kit kat a sudd oren. Fi fel arfer yn joio unrhwfath o bicnic, heddi o’n i’n nervous a ffili stymogi lot. Ffones i Andrew i weld shwt odd e a’r bois. Roedd yr amser yn mynd yn uffernol o slo, on i just moen cael yr apwyntiad ma drosodd gyda.
10 mlynedd nol o’n i allan o’r apwyntiad gyda Dr Holt o fewn hanner awr.
12.40.....”fi’n mynd i fynd mewn slo bach, falle bo ise llanw rhyw forms”
Arhosodd mam yn y car - “good luck” medde hi mas trw’r ffenest.
Gulp....nawr o’n i yn nerves gabotsh (dywediad Mam os ma hi’n becso yn uffernol)
shit just got real - ‘omg ma nhw mynd i checko y lwmp ma a mynd i mwy neu lai neud rhywfath o benderfyniad heddi, a byddai falle’n gwbod os yw e’n seriys neu beidio’ - ath fy meddwl mewn i overdrive dros y munudau nesa na.
Gerddes i mewn i’r ysbyty ac fe gefais gyfarwyddiadau i fynd lawr i Uned y fron. Dim ond fi oedd yna ar y dechrau. Cefais ffurflenni i’w llenwi. Wedyn dath lady fach mewn ac eistedd gyferbyn a fi.
Erbyn hyn o’n i yn neud fy “good luck ritual” - lle dwi’n dawel bach yn dweud rhywbeth 9 o weithiau” pidwch holi pam, OCD. Os bo rhwbeth neu rhywun yn tynnu fy sylw yng nghanol y broses, ma rhaid i fi ddachre eto neu byddai’n cael anlwc.
Fi di bod yn neud hyn ers blynydde....dim pob dwrnod. Dim ond ar achlysuron lle bo fi’n teimlo bo ise lwc arna i neu rhywun arall. Ma fe’n OCD issue ond ma fe’n ffordd o dawelu fi a teimlo mewn control.
Ta beth....fe dorrodd y lady ar draws y ritual (damo bydd rhaid dachre to)
Roedd hi wedi cael masectomy ac yn dod nol i gael check up ar yr ysgyfaint am fod y cancr wedi lledaenu.
“Drink green tea my love and plenty of turmeric - its good for fighting cancer
“Ohhh I don’t have cancer...well I don’t know. I have a lump and I’m getting it checked out. I had one ten years ago and that was harmless. I’m hoping this is the same”
Es i mewn i instant defensive mode achos odd y lady ma wedi mwy neu lai diagnoso fi da cancr trw rhoi’r tips ma i fi.
“Caryl Davies”
“Yes”
“I’m Jo, come with me”
Arweiniodd Jo y nyrs fi at ystafell Eleri Davies y consultant.
Ar ôl trafod fy iechyd ac ateb cwestiynau, roedd hi’n amser yr archwiliad.
Doedd Eleri methu teimlo’r lwmpyn- ac fe holodd hi fi yn ble oedd e. Ar ol teimlo a teimlo fe ddes i o hyd i fe “i think this is the lump”. Fe esboniodd hi y bydde sonographer yn dod i fewn i wneud y scan o fewn munudau i gael gweld y lwmpyn. Sain cofio enw’r sonographer ond fi’n cofio meddwl ‘smo hon yn gweud lot’.
Roedd hi’n mynd nol a mlan dros y lwmpyn, ond dweud dim.
Nath panic seto mewn - “hmmm is it a fibrodenoma?”
It’s not a typical fibroadenoma because of the edging, but I can’t say for sure.
Roedd fy llygaid i arni ac yna Eleri a wedyn Jo y nyrs.
Omg!!!! Os un o rhein mynd i weud wrthai beth yw e????
Roedden nhw’n edrych ar ei gilydd ond yn dweud dim.
Yna ......”The only way we can determine if it’s a fibroadenoma is to do a mammogram and a biopsy”
A finne yn meddwl...ma rhein yn gwbod taw cancer yw e, ma nhw ise testo i weld pa cancer yw e.
O’r funud na, on i wedi diagnoso fy hunan da cancr ac yn teimlo yn shit
O’n i ddim yn disgwl hyn!!!
Byrstes i mas i lefen!!!!
“Do you have anyone with you? Holodd Jo.
“My mum is in the car” atebes i.
“She can come in if you want”
Es allan o’r ystafell i wneud yr alwad i Mam. Gyda fy llais dewarf (i drial cwato yr ofn a’r dagre)
“Hey ti’n gallu dod mewn os ti moen, byddai’n reception yn aros am ti”
O’n i yn fy ngown a trowsus ac yn iste yn aros i Mam.
Unwaith weles i Mam yn dod trw’r drws fe dorres i lawr.
“Mam ma nhw moen neud mammogram a biopsy”
Odd panic ar wyneb mam. Pryd?
Www sain gwbod anghofies i holi ‘ny.
Ti’n cael e heddi.....
ma biopsy yn £700 (cofio o’r pricelist pan on i yn googleo”
A sain gwbod faint yw mammogram. Bydd e dros £1,000 i gyd.
Sdim ots faint ma fe’n costi, iechyd ti syn bwysig, fi'n talu.
So, dyma ni dwy yn mynd nol at Eleri Davies, y sonographer a Jo.
Fe esbonion nhw i Mam bo biopsy yn syniad da am fy mod i dros 30. A bo modd i fi gael y mammogram a’r biopsy heddi o fewn y munudau nesa.
Y peth nesa fi’n cofio yw cerdded i’r ystafell drws nesa i gael y mammogram.
Ma pawb yn dweud nad yw en brofiad pleserus. Sain cofio teimlo dim....O’n i mor numb ac yn ddagreuol.
Sain credu bydden i wedi sylwi tase rhywun wedi rhoi cyllell trwydda i......ok fi’n wrong fe wnes i deimlo’r biopsy!!!!!!
Doedd yr ardal ddim wedi numbo digon ar ol y local anaesthetic. Fe ges i uffarn o ddolur a sgreches i.
“We’ll have to do it again, but you shouldnt feel it this time”
Tro ma fe ddalodd Jo fy llaw i mor mor dynn, odd hi’n gallu gweld yr ofn yn fy llygaid.
“Dont worry lovely” it will all be over in a minute.
Ac odd hi’n iawn, gyda’r mammogram a’r biopsy drosodd doedd dim byd arall i wneud nawr ond aros am y canlyniadau.
“How long will the biopsy results take?”
“They results should be ready by next Thursday. You can come back for them or we can phone.”
“I’ll come back for them” on i yn bemderfynol bo fi moen cael yr atebion wyneb yn wyneb a ddim dros y ffôn.
“Are you sure, its a long way for you fairplay”
“Tin siwr smo ti moen nhw ffono ti Caryl” wedodd Mam.
“No I would rather come back here and face it whatever it is”. On i yn benderfynol.
...........
Roedd y siwrne nol yn dawelach. O’n i yn trial cadw’r dagrau mewn yn lle bo Mam yn gweld pa mor ypset on i.
O’n i yn falch cael cyrraedd adre i fy man saff. Roedd y croeso adre yn lyfli da’r bois! Elon ni am walk fach rownd y bloc ar ol swper wedyn allan i glapio i’r NHS am 8.
Roedd safle’r biopsy yn boenus erbyn hyn...ond ddim hanner mor boenus a beth o’n i yn teimlo’n feddyliol. Roedd popeth ych a fi yn mynd trw fy meddwl bob tro on i yn edrych ar y bois bach
“Odw i yn mynd i farw? Beth os ma fe’n incurable? Beth os byddai’n rhy sal i watcho’r bois? Pwy sy’n mynd i helpu Andrew gyda’r bois? Omg bydd y bois yn cofio fi ar ôl fi farw? Shwt ma Mam mynd i copo? Sain gallu marw ma bois ma angen fi. Sai moen misso mas arno nhw’n tyfu lan.
A wedyn gofies i.....damo, fe dorres i’r good luck ritual heddi a nes i ddim ail neud e.
Ar ol nosweth rubbish o gwsg. Fe ddihunes i lan ar y dydd gwener yn benderfynol bo ni mynd i gal wthnos fach neis...a ddim meddwl na siarad am ddydd Iau nesa.
(Siaradon ni ddim am dydd Iau nesa.....ond roedd fy meddwl mewn overdrive 24/7 ac yn creu scenarios bizzare)
Create Your Own Website With Webador